Offerynnau Statudol sydd ag Adroddiadau Clir

10 Hydref 2022

SL(6)262 Rheoliadau Gwasanaethau Rheoleiddiedig (Darparwyr Gwasanaethau ac Unigolion Cyfrifol) (Cymru) (Diwygio) a (Coronafeirws) (Dirymu) 2022

Gweithdrefn: Cadarnhaol

Mae'r Rheoliadau hyn yn:

-      Dirymu'r diwygiadau dros dro sy'n gysylltiedig â'r coronafeirws a wnaed yn 2020[1] i ofynion ar ddarparwyr gwasanaethau cartrefi gofal, sy’n gyfan gwbl neu'n bennaf ar gyfer oedolion, ac ar wasanaethau cymorth cartref i oedolion. Nod y diwygiadau hyn oedd cefnogi darpariaeth gofal cymdeithasol brys i oedolion, lle'r oedd angen hyn o ganlyniad i ledaeniad y coronafeirws, a symleiddio'r gwiriadau cyn cyflogi sy'n ofynnol ar gyfer gweithwyr preswyl a gofal cartref newydd, mewn sefyllfaoedd lle'r oedd yn anodd cael gafael ar y wybodaeth hon.

 

-      Diwygio’r disgrifiad o fangreoedd 'Categori C'[2] i egluro eu bod yn cynnwys mangreoedd neu sefydliadau perthnasol yr oedd person wedi'i gofrestru yn gysylltiedig â hwy o dan unrhyw Ddeddf berthnasol (h.y. unrhyw Ddeddf, ac eithrio Deddf Rheoleiddio ac Arolygu Gofal Cymdeithasol (Cymru) 2016, a oedd yn darparu rheolaeth a goruchwyliaeth reoleiddiol o'r fath yn flaenorol mewn gwasanaethau sy’n seiliedig ar lety yng Nghymru).

Rhiant-Ddeddf: Ddeddf Rheoleiddio ac Arolygu Gofal Cymdeithasol (Cymru) 2016

Fe’u gwnaed ar: Heb ei nodi

Fe’u gosodwyd ar: Heb ei nodi

Yn dod i rym ar: 01 Tachwedd 2022

 

 

                                                                                                 


Offerynnau Statudol sydd ag Adroddiadau Clir

10 Hydref 2022

SL(6)264 Rheoliadau Digartrefedd (Angen Blaenoriaethol a Bwriadoldeb) (Cymru) 2022

Gweithdrefn: Cadarnhaol

Mae’r Rheoliadau hyn yn diwygio Deddf Tai (Cymru) 2014 (“Deddf 2014”) a Rheoliadau Digartrefedd (Bwriadoldeb) (Categorïau Penodedig) (Cymru) 2015 (“Rheoliadau 2015”).

 

Mae rheoliad 2 yn diwygio Deddf 2014 i bennu disgrifiad pellach o berson sydd ag angen blaenoriaethol am lety at ddibenion Pennod 2 o Ran 2 o’r Ddeddf honno. Mae’r Bennod honno yn gosod dyletswyddau ar awdurdodau tai lleol i gynorthwyo pobl sy’n ddigartref neu o dan fygythiad o ddigartrefedd.

 

Mae rheoliad 3 yn gwneud newid cyfatebol i Reoliadau Digartrefedd (Bwriadoldeb) (Categorïau Penodedig) (Cymru) 2015.

 

Prif effaith y Rheoliadau yw y bydd pobl sy'n ddigartref ac ar y stryd, a'r bobl hynny y gellid disgwyl yn rhesymol i berson sy'n ddigartref ac ar y stryd breswylio gyda hwy, mewn angen blaenoriaethol am lety. Bydd y newidiadau a gyflwynir gan y Rheoliadau hyn yn galluogi awdurdodau lleol i barhau i fabwysiadu polisïau cymorth digartrefedd sy'n dilyn yn agos yr ymateb digartrefedd brys i bandemig y coronafeirws.

 

Rhiant-Ddeddf: Ddeddf Tai (Cymru) 2014

Fe’u gwnaed ar: Heb ei nodi

Fe’u gosodwyd ar: Heb ei nodi

Yn dod i rym ar: 24 Hydref 2022

 

 

 

 

                                                                                                 


 



[1]Drwy Reoliadau Gwasanaethau Rheoleiddiedig (Darparwyr Gwasanaethau ac Unigolion Cyfrifol) (Cymru) (Diwygio) (Coronafeirws) 2020 (SI 2020/570)

[2] Yn rheoliad 49 o’r Rheoliadau Gwasanaethau Rheoleiddiedig (Darparwyr Gwasanaethau ac Unigolion Cyfrifol) (Cymru) 2017 (SI 2017/1264)